Hanes lleol

Llaneirwg

Mae gan ardal Llaneirwg, a oedd wedi’i lleoli’n wreiddiol yn sir hanesyddol Sir Fynwy yng Nghaerdydd, hanes cyfoethog gyda thystiolaeth yn awgrymu treftadaeth sy’n dyddio’n ôl i gyfnod y Silwriaid dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae union darddiad yr enw Saesneg, St Mellons, yn ansicr ond mae sawl damcaniaeth bosibl. Mae’r enw Cymraeg, Llaneirwg, yn awgrymu y cafodd y dref ei henwi i anrhydeddu’r pennaeth lleol Eurwg/Eirwg a oedd yn byw ar y bryn yn Llaneirwg lle saif yr eglwys nawr. Damcaniaeth arall yw y cafodd yr ardal ei henwi ar ôl Mellonius, Esgob cyntaf Rouen yn y bedwaredd ganrif, a anwyd yn yr ardal.

Yr esboniad mwyaf tebygol, fodd bynnag, yw y cafodd yr ardal ei henwi ar ôl nawddsant y Normaniaid – Sant Mellon. Ar ôl i’r Normaniaid goncro’r rhanbarth yn yr 11eg ganrif, cysegrwyd eglwys newydd i’r sant.

Roedd y Normaniaid wedi tra-arglwyddiaethu ar ardal Llaneirwg ac, yn wir, ar y rhan fwyaf o Gaerdydd, tan ddechrau’r 13eg ganrif. Adeiladodd Robert Fitzhamon, y Norman a goncrodd Forgannwg, blasty hela ar gyfer ei ferch Mabel yn yr ardal, sydd bellach yn gyfarwydd i ni fel Cefn Mably. Roedd yr adeilad hardd hwn yng nghanol 6,000 erw o gefn gwlad ac roedd ganddo ei yr ei hun o geirw crwydrol. Cafodd adeilad Cefn Mably ei ailadeiladu dros y canrifoedd a daeth ei deyrnasiad fel un o blastai gwledig gorau Cymru i ben pan gafodd ei drosi’n ysbyty yn 1920.

Dechreuodd tref Llaneirwg fel canolfan fasnachol fach a ddibynnai fwyaf ar amaethyddiaeth, ffermio a theithio. Roedd sawl tafarn yn torri syched teithwyr a oedd yn defnyddio Ffordd Casnewydd, yr hen ffordd Rufeinig a oedd yn cysylltu Caerdydd â Llundain.

Roedd Ffair Llaneirwg yn ddigwyddiad blynyddol a gynhaliwyd yn y dref gan fynachod y fynachlog yn Llanrhymni tan ganol y Diwygiad yn 1959. Cafodd y Ffair ei disodli gan gystadleuaeth aredig a gynhaliwyd ym Mharc Llanrhymni nes i’r ystâd dai fodern gael ei hadeiladu. Mae’n parhau i fod yn ddigwyddiad blynyddol poblogaidd hyd heddiw a gynhelir yn Nhŷ Tredegar.

Yn 1974, daeth Llaneirwg yn rhan o Dde Morgannwg.
Heddiw, caiff yr ardal hanesyddol sydd â llawer o adeiladau yn dyddio’n ôl i’r 19eg ganrif ei galw’n Bentref Llaneirwg, a Llaneirwg yw’r enw a ddefnyddir ar gyfer y rhan fwy newydd o’r dref i’r de a’r dwyrain.

Gweler ein datblygiadau yn Llaneirwg / Pentref Llaneirwg:

Rhos yr Arian, Llaneirwg, CF3 0PY – Gwerthiannau ar y Farchnad Agored, Perchentyaeth Cost Isel a Fforddiadwy
Plas Hortensia, Pentref Llaneirwg, CF3 5EY – Gwerthiannau ar y Farchnad Agored