Ein gweledigaeth
Adeiladu cartrefi o ansawdd eithriadol ac adfywio cymdogaethau yn un o’r dinasoedd mwyaf atyniadol i fyw ynddi yn Ewrop.
Mae Cartrefi Caerdydd yn fath newydd o bartneriaeth dai sy’n cynnig yr arbenigedd gorau ym maes adeiladu a datblygu eiddo preifat a fforddiadwy ochr yn ochr ag ymrwymiad cadarn i gymunedau ac adfywio.
1
Cynllunio i weddu i fywydau modern
Mae ein cartrefi newydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â bywyd modern. Byddant yn gweddu i’ch ffordd o fyw ac yn rhoi lle i chi dyfu. Mae gwaith cynllunio o’r radd flaenaf ac ansawdd adeiladu digymar yn creu cartrefi y gallwch fyw ynddynt heb gyfaddawdu ar ddim.
2
Effeithlonrwydd ynni
Bydd pob cartref:
- Yn cyrraedd safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni
- Yn fwy cynaliadwy, sy’n golygu biliau ynni is i breswylwyr
- Yn defnyddio llai o ynni
3
Cymunedau cysylltiedig
Mae ein datblygiadau yn gymunedau cysylltiedig sy’n cynnig mynediad uniongyrchol i brifddinas ffyniannus ynghyd â chysylltiadau ffyrdd, rheilffordd ac awyr er mwyn teithio’n gyfleus i fannau domestig a thramor.
4
Ysbryd cymunedol
Nid yw ein datblygiadau yn annibynnol ond, yn hytrach, cânt eu gwau i mewn i wead cymunedau sy’n bodoli’n barod. Mae darparu amwynderau a rennir a mannau cyhoeddus yn cyfrannu at yr ysbryd cymunedol sy’n bodoli eisoes ac yn creu cartrefi a chymdogaethau y mae pobl am fod yn rhan ohonynt.
5
Partneriaid
Mae gan bob un o bartneriaid Cartrefi Caerdydd eu nodweddion a’u harbenigedd eu hunain, sy’n arwain at ddatblygiadau enghreifftiol o safbwynt yr amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd cymdeithasol.
6
Mwynhau’r amgylchedd
Bydd pob datblygiad yn hyrwyddo gweithgarwch corfforol drwy’r amgylchedd adeiledig. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i gerddwyr dros gludiant modurol drwy’r cysyniad Parthau Cartrefi, gan greu strwythurau a chynlluniau teithio egnïol a hyrwyddo mynediad i fannau agored a chyfleusterau cymunedol/manwerthu drwy gerdded neu feicio.